Mae ofnau fod dyn o Gymru oedd yn cael ei gadw’n wystl yn Irac wedi marw.

Mae’r BBC’n adrodd fod yr awdurdodau bellach yn credu Alec McLaughlin yn un o ddau o dri gwystl sydd wedi eu lladd.

Roedd ymhlith pump o ddynion a gafodd eu cipio gan grŵp Islamaidd ym mis Mai 2007 ac fe gafodd cyrff dau arall eu trosglwyddo ym mis Mehefin eleni.

Os yw’r adroddiadau’n gywir, dim ond un gwystl sydd ar ôl bellach – Peter Moore, arbenigwr cyfrifiadurol a oedd yn cael ei warchod gan y pedwar arall.

Ers y dechrau, fe gafodd yr achos ei gadw’n dawel a doedd enwau llawn y dynion ddim wedi’u cyhoeddi. Y dybiaeth oedd fod Alec McLaughlin yn dod o ardal Llanelli neu Abertawe.

Llun: Peter Moore