Fe gafodd y syniad o greu cronfa arbennig ar gyfer teledu Saesneg yng Nghymru ei drafod mewn cyfarfod argyfwng yng Nghaerdydd neithiwr.
Byddai’r gronfa, a fyddai’n cael arian gan Lywodraeth y Cynulliad a San Steffan, a’r Loteri Cenedlaethol, ar gael i dalu am greu rhaglenni Cymreig yn yr iaith Saesneg.
Roedd y cyfarfod wedi’i alw gan TAC, y gymdeithas sy’n cynrychioli cwmnïau teledu annibynnol, a’r Sefydliad Materion Cymreig, wrth i lai a llai o raglenni Saesneg gael eu cynhyrchu am Gymru.
Angen mwy o drafod
Cyn y cyfarfod, fe ddywedodd Cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig fod angen mwy o drafodaeth am yr argyfwng sy’n wynebu teledu Saesneg yng Nghymru.
Mae trafferthion ariannol ITV yn golygu fod nifer y rhaglenni newyddion a chyffredinol Cymreig ar y sianel wedi disgyn yn sylweddol yn ddiweddar, meddai Geraint Talfan Davies, ac mae ofn mai dim ond y BBC a fydd yn darparu’r fath wasanaeth yn y dyfodol agos.
Yn ôl Geraint Talfan Davies, mae perygl go iawn y gallai rhaglenni Cymreig ITV ddiflannu yn llwyr oddi ar y sianel erbyn diwedd y flwyddyn.
Y cwestiynau
Os bydd y syniad o gronfa newydd yn cael ei dderbyn, fe fyddai’n rhaid penderfynu pwy fyddai’n rheoli’r corff – comisiwn annibynnol ynteu Ofcom.
Fe allai fod rhywfaint o ymrafael gwleidyddol hefyd – gan nad yw darlledu wedi ei ddatganoli, fe fyddai’n rhaid penderfynu ai Llywodraeth y Cynulliad ynteu Llywodraeth San Steffan a fyddai’n rheoli.
“Pwy fyddai’n penderfynu natur, criteria, a safonau’r rhaglenni; a pa fath o gwmnïau a fyddai’n cael eu defnyddio: cwmnïau masnachol; sefydliadau ddim er elw, ynteu ymddiriedolaethau?” meddai Geraint Talfan Davies.
Dywedodd fod y sefyllfa yn codi cwestiynau pwysig ynglŷn â diwylliant Cymru yn yr iaith Saesneg, “mater sy’n effeithio arnon ni i gyd yng Nghymru.”