Mae dynes a gafodd ei dal yn yfed a gyrru yn Seland Newydd wedi ceisio osgoi cael ei chyhuddo drwy roi’r bai am y digwyddiad ar ffliw’r moch.

Cafodd Deborah Karen Graham ei dal yn yfed a gyrru yn ninas Queenstown. Ond wrth wynebu llys dywedodd bod y tri gwydraid o win a yfodd cyn gyrru wedi cael effaith waeth nag arfer arni, gan ei bod yn gwella o ffliw’r moch.

Methodd yr esgus ag argyhoeddi’r barnwr, a chafodd ddirwy o £140, a’i gwahardd rhag gyrru am chwe mis.