Lloegr fydd yn cynnal Cwpan Rygbi’r Byd 2015 wedi chyoeddiad gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (yr IRB) yn Nulyn heddiw.

Roedd trefnwyr y digwyddiad eisoes wedi argymell Lloegr fel lleoliad ac fe fyddai wedi bod yn dipyn o sioc pe na bai’r Saeson wedi llwyddo i gael eu dewis.

Mae hynny’n golygu y bydd rhai gemau hefyd yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Ond fydd Cymru ddim yn cyd-gynnal y gwpan.

Roedd Lloegr yn wynebu cystadleuaeth gan Dde Affrica a’r Eidal am bleidlais y cyngor 24 aelod.

Mae Japan hefyd wedi ei henwi fel y wlad fydd yn cynnal Cwpan y Byd yn 2019. Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Asia a gan wlad y tu allan i’r ”wyth mawr” traddodiadol.

Yn sgil y cyhoeddiad am lwyddiant Lloegr, mae disgwyl rhywfaint o feirniadaeth am benderfynu cynnal y bencampwriaeth mewn gwlad fydd yn dod ac elw mawr i’r IRB yn hytrach nag un fydd yn cyflwyno’r gamp i wledydd newydd.

Mae penderfynu rhoi’r Cwpan y Byd i Japan yn 2019 i’w weld yn ffordd o leddfu ychydig ar y feirniadaeth hynny.

Fe gafodd ei gadarnhau heddiw hefyd y byddai Prydain yn cynnal Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair yn 2013, er mwyn osgoi gwrthdaro gyda’r Gemau Olympaidd yn 2012. Fe wnaeth Awstralia ei gynnal yn 2008.

Bydd y Cwpan y Byd nesaf yn 2011 yn cael ei gynnal yn Seland Newydd.