Mae merch y bardd enwog o Abertawe, Dylan Thomas, wedi marw.

Fe wnaeth Aeronwy Ellis farw yn ei chwsg brynhawn ddoe. Roedd y wraig a’r fam 66 oed – oedd yn byw yn Llundain – wedi bod yn brwydro yn erbyn cansr.

Does dim manylion am ei hangladd wedi eu cyhoeddi, ond yn ôl papur newydd y South Wales Evening Post, fe fydd ei llwch yn cael ei wasgaru yn Nhalacharn – lle buodd Dylan Thomas yn byw am gyfnod.

Roedd gan Dylan Thomas dri o blant – Llywelyn, sydd eisoes wedi marw, Aeronwy, a Colm.

Roedd Aeronwy Ellis wedi ei henwi ar ôl yr Afon Aeron yng Ngheredigion, lle y bu Dylan Thomas yn byw am gyfnod. Hi oedd noddwr Cymdeithas Dylan Thomas.