Does gan y prif gorff i amddiffyn hawliau a sicrhau chwarae teg yng ngwledydd Prydain ddim gair o Gymraeg yn adran Cymru ei wefan.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi amddiffyn y diffyg Cymraeg ar eu gwefan gan fynnu mai anhawster technegol dros dro sy’n gyfrifol.

Yn ôl Dai Lewis, llefarydd ar ran y sefydliad cyhoeddus, roedd gwasanaeth Cymraeg wedi cael ei ddatblygu a oedd “bron â bod yn ddrych i’r Saesneg” ond fod y wefan gyfan wedi torri ym mis Mai ac mae gwefan dros dro sydd yno’n awr.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael ar y wefan dros dro erbyn dechrau’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf ac y byddai gwasanaeth llawn yn Gymraeg ar y We erbyn mis Hydref.

“Nod y comisiwn yw cael gwefan hollol ddwyieithog,” meddai Dai Lewis.

Cynllun Iaith

Ar hyn o bryd mae drafft uniaith Saesneg o gynllun iaith y sefydliad i’w gweld ar y wefan – drafft sy’n dal i gael ei ystyried gan Fwrdd yr Iaith.

Yn ôl Dai Lewis, cychwynnodd ymgynghoriad ynglŷn â’r cynllun iaith tua blwyddyn yn ôl, ond fod y comisiwn a Bwrdd yr Iaith wedi anghytuno ynglŷn â rhai pethau.

Er hyn, dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo erbyn dechrau mis Hydref.

Cadarnhaodd Meinir Jones, llefarydd ar ran Bwrdd yr Iaith, fod y Bwrdd yn cydweithio â’r Comisiwn Cydraddoldeb ynglŷn â llunio cynllun iaith, ond nad oedd dim byd wedi cael ei gymeradwyo eto.

Gwrthododd Meinir Jones gadarnhau amserlen ynglŷn â datblygiad y ddogfen, ond fe wnaeth gadarnhau fod gwasanaeth Cymraeg yn arfer cael ei gynnig ar wefan y Comisiwn.

Yn ôl Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe gymrodd y Comisiwn amser hir i sefydlu polisi dwyieithog ar eu gwefan yn y lle cyntaf.

“Fe gawn ni weld os fedran nhw gadw at eu gair o sefydlu gwasanaeth dwyieithog y tro yma,” meddai Dafydd Morgan Lewis.

(Llun: Trevor Phillips, cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)