Bydd gan heddweision y byd arf newydd cyn hir – y math diweddaraf o ddryll taser.
Mae’r heddlu yn yr Unol Daleithiau a Phrydain wedi bod yn defnyddio’r drylliau sy’n saethu gwifrau â cherrynt trydanol ers blynyddoedd, ond dim ond unwaith oedd modd eu saethu cyn gorfod ail lwytho.
Mae’r dryll newydd yn gallu saethu tair gwaith heb orfod ail lwytho. Fe allai fod o gymorth i heddweision sydd angen rhoi sioc drydanol i fwy nag un person, neu fyddai wedi methu ar yr ymdrech gyntaf.
Cafodd y taser newydd ei ddatgelu o flaen cannoedd o heddweision America oedd yn “curo dwylo” gyda balchder.
Gwrthwynebiad
Mae gwrthwynebiad cryf i ddefnyddio gwn taser gan rai sefydliadau hawliau dynol, sy’n honni fod drylliau taser yn gallu achosi i bobol gael trawiad ar y galon.
Gwirfoddolodd cyn-Brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Brunstrom, i gael ei saethu gyda gwn taser er mwyn dangos i’r cyhoedd eu bod nhw’n saff.
Fe wnaeth yr heddlu yng ngogledd Cymru hefyd ddefnyddio dryll taser i saethu dafad oedd yn gwrthod symud oddi ar yr A55, fis Hydref diwethaf.
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Gartref ym mis Mehefin y byddai 30,000 o heddweision yn cael eu hyfforddi i’w defnyddio.
Ond mae gwrthwynebiad i’r cynllun gan rai heddweision, ac mae Heddlu’r Met yn Llundain a llu Sussex wedi gwrthod defnyddio’r arfau.
Yn ôl Amnest Rhyngwladol, mae 351 o bobol wedi marw yn yr Unol Daleithiau ar ôl cael eu saethu ganddynt.
Mae’r mudiad yn honni bod archwilwyr meddygol wedi cysylltu 50 o’r marwolaethau â sioc drydanol y taser.
Yn ôl Curt Goering, dirprwy gyfarwyddwr gweithredol Amnest Rhyngwladol yr Unol Daleithiau, fe allai’r gallu i saethu fwy nag unwaith arwain at gamddefnyddio’r gwn.