Mae dyn cenfigennus a laddodd ei lysfab 15 oed trwy ei drywanu gyda chyllell wedi ei gael yn euog o’i lofruddio.

Fe wnaeth Carl Wayne Bowen, 42 oed, o Stryd Grant, Llanelli, drywanu Jamie Yeates 18 gwaith mewn ymosodiad direswm a’i adael yn gwaedu i farwolaeth.

Roedd Jamie Yeates yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg y Strade yn Llanelli ac yn gobeithio cael gyrfa fel joci.

Dywedodd yr amddiffyniad fod Carl Wayne Bowen yn dioddef o “anhwylder meddwl” adeg yr ymosodiadau yn oriau man Ionawr 8.

Mae’r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe yn parhau i ystyried cyhuddiadau pellach yn erbyn Carl Wayne Bowen, o geisio llofruddio mam Jamie Yeates, Maria, a’i lysferch, Kimberley.

Dywedodd y barnwr, Nigel Davis, wrth y rheithgor ei fod yn fodlon derbyn penderfyniad ranedig ar y rheiny.

Mam yn clywed sgrechfeydd

Nododd yr erlyniad bod Carl Wayne Bowen wedi mynd lan y grisiau yn eu cartref wedi ei arfogi gyda chyllell cegin a bat pêl-fas gyda’r bwriad o ladd Jamie Yeates.

Clywodd cymdogion bob ochor i’r cartref Jamie yn gweiddi “na, Dad” a Carl Wayne Bowen yn bloeddio: “Dwi’n mynd i’w fucking ladd e’.”

Clywodd y llys bod Jamie, oedd yn gobeithio bod yn joci proffesiynol, wedi sgrechian am ei fam wrth i’w lystad meddw ymosod arno.

Roedd archwiliad o gorff y llanc yn dangos bod y gyllell wedi torri drwy ei asgwrn cefn a’i asennau ac wedi mynd drwy un o’i freichiau i mewn i’w frest.

Fe wnaeth ei sgrechiadau wrth farw ddeffro ei fam a’i chwaer, oedd yn cysgu, a aeth allan i dop y grisiau i weld beth oedd yn mynd ymlaen.

Yn ôl yr erlyniad ceisiodd Carl Wayne Bowen drywanu ei wraig, a llwyddodd i anafu braich ei lysferch yn ddifrifol.

Ar ôl wynebu ei wraig ar ben y grisiau fe aeth Carl Wayne Bowen yn ôl i lawr ac i’r stryd tu allan. Fe wnaeth ei wraig ei gloi allan a galw’r heddlu.

Cyrhaeddodd yr heddlu a darganfod y gyllell a’r bat pêl-fas yn yr ardd flaen.

Erbyn i’r parafeddygon gyrraedd roedd calon Jamie Yeates eisoes wedi stopio a doedd dim modd ei adfywio.