Mae’r cynyrchiadau fideo sy’n cael eu cyhoeddi ar wefan y BBC yn mynd i gael eu rhannu â rhai papurau newydd cenedlaethol.
O heddiw ymlaen, fe fydd papurau newydd y Daily Telegraph, y Guardian, y Daily Mail a’r Independent, yn cael defnyddio rhai o gynyrchiadau fideo’r BBC ar eu gwefannau nhw.
Bydd y fideos yn ymwneud â gwleidyddiaeth gwledydd Prydain, busnes, iechyd, gwyddoniaeth a thechnoleg, ond fydd gan y papurau ddim hawl i ddefnyddio cynnyrch gwasanaeth chwaraeon ac adloniant y BBC.
Fydd y papurau ddim yn cael golygu’r deunydd ac fe fydd rhaid iddo ymddangos gyda’r un ddelwedd ag ar y BBC ei hun.
Fydd ddim hawl gyda nhw i ychwanegu hysbysebion at y cynnyrch chwaith, a dim ond defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig fydd yn gallu gweld y deunydd.
Yn ôl y BBC, y bwriad yw ehangu’r cynllun rhannu yn y dyfodol, gan olygu y bydd rhagor o wefannau newyddion Prydeinig yn cael defnyddio deunydd y gwasanaeth cyhoeddus.
Mae pwysau wedi bod ar y Gorfforaeth i rannu ei deunydd – gyda phapurau lleol, er enghraifft – ac mae hynny’n debyg o gael ei ddefnyddio wrth iddi ymladd i gadw holl arian y drwydded.