Mae adroddiad gan Aelodau Seneddol yn codi pryderon mawr am ddyfodol darlledu trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin gallai Cymru fod heb unrhyw ddewis o ddarlledwyr erbyn 2010, yn enwedig ym maes newyddion.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn nodi pryder am ddiffyg rhaglenni cerddoriaeth, dramâu a chomedi.

Mae’r adroddiad yn galw ar i’r Llywodraeth ddod o hyd i gyllid i ateb y diffyg sy’n codi yn sgil trafferthion ariannol cwmni ITV.

Dim ond pedair awr o newyddion Cymreig bob wythnos fydd ganddyn nhw – cyn bo hir, meddai’r Pwyllgor, dim ond y BBC fydd ar ôl.

Un opsiwn posib yw cynnig S4C i ddarparu gwasanaeth newyddion Saesneg. Ond mae’r adroddiad yn beirniadu’r sianel am beidio â chyhoeddi manylion eu cynnig,

Diffyg cystadleuaeth

Mae’r pwyllgor yn pryderu am y diffyg cystadleuaeth ac amrywiaeth yn y gwasanaethau fydd ar gael yng Nghymru.

Er eu bod yn croesawu adroddiad y Llywodraeth, Prydain Ddigidol, maen nhw’n siomedig nad oedd unrhyw gynigion cadarn nac atebion cyllid i ateb y broblem o ddiffyg dewis mewn gwasanaethau newyddion yng Nghymru.

‘Sefyllfa ddifrifol’

“Mae’n glir bod rhagolygon y ddarpariaeth newyddion Saesneg yng Nghymru yn llwm os na fydd gweithredu cyflym. Mae Ofcom wedi rhybuddio bod y sefyllfa dros y flwyddyn nesaf yn ddifrifol. Mae hyn yn bryderus iawn gan gofio y bydd etholiad yn cael ei gynnal- adeg pan fydd hi’n allweddol i gynulleidfaoedd gael amrywiaeth o raglenni newyddion o safon uchel”- Dr Hywel Francis, Cadeirydd y Pwyllgor.