Wrth i’w lysdad wynebu achos llys ar gyhuddiad o’i lofruddio, roedd yna deyrnged arbennig i’r bachgen 15 oed o Lanelli, Jamie Yeates.
Roedd y ras gynta’ ar gwrs rasio Ffos Las yn Nhrimsaran ddoe wedi’i henwi ar ôl Jamie Yeates, a oedd wedi bwriadu mynd yn joci ei hun.
Mam Jamie, Maria Jenkins, a gyflwynodd y wobr i Michael Hills, y joci buddugol yn ras yr EPF/Jamie Yeates Maiden Stakes ar gyfer cesyg dwy oed.
Un o’r bobol eraill ymhlith y dyrfa yn Nhrimsaran oedd Alison Thorpe, hyfforddwraig mewn stablau lleol, lle’r oedd Jamie Yeates yn arfer helpu.
“Pe bai e’n fyw, dw i’n siŵr y byddai Jamie yma heddiw yn arwain un o’r ceffylau mas.” Meddai.
“Spencer Bach” oedd llysenw’r bachgen, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol y Strade Llanelli, am mai’r joci Jamie Spencer oedd ei arwr.
Yr achos llys
Mae llysdad Jamie Yeats, Craig Bowen, 42 oed, yn Llys y Goron Abertawe wedi’i gyhuddo o lofruddio’r bachgen ac o geisio llofruddio ei wraig a’i lysferch. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.