Mae’r cwmni hedfan rhad Ryanair wedi cyhoeddi y bydd 30% yn llai o’u hawyrennau yn hedfan o faes awyr Stansted dros y gaeaf eleni, oherwydd trethi uchel gan y Llywodraeth a BAA.

Bydd 10 gwasanaeth yn diflannu dros y gaeaf, a bydd y gwasanaethau eraill yn cael eu cyfyngu hefyd.

Mae’r cyhoeddiad wedi codi amheuaeth ynglŷn â diogelwch cannoedd o swyddi.

Polisi “ynfyd a niweidiol”

Yn ôl prif weithredwr Ryanair, Michael O’Leary, polisi treth hedfan “ynfyd a niweidiol” y Llywodraeth yw un o’r rhesymau am benderfyniad y cwmni – treth sydd fod i gynyddu o fis Tachwedd ymlaen.

Gosododd ychydig o’r bai ar y perchnogion maes awyr, BAA, hefyd, gan honni fod trethi’r meysydd awyr mor uchel nes bod twristiaeth a’r economi yn dioddef.

“Diwydiant yn dioddef”

Mae Ryanair a Chymdeithas Peilotiaid Cwmnïoedd Hedfan Prydain wedi galw ar y Llywodraeth i gael gwared ar y dreth ymadael, gan rybuddio fod y diwydiant yn dioddef yn enbyd o’i achos.

Yn ôl Ryanair, mae llywodraethau Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Groeg a Sbaen wedi naill ai leihau neu gael gwared ar drethi hedfan a maes awyr, mewn ymdrech i ddenu ymwelwyr.

Ond, yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Stansted, Stewart Wingate, fe fydd Ryanair yn torri gwasanaethau pob gaeaf a dim ond pedair awyren yn llai fydd ganddyn nhw eleni.