Fe fu pobol ar draws Asia yn gwylio;r diffyg mwya’ ar yr haul yn ystod y ganrif yma.
Mewn un man, fe gymerodd hi 6 munud 39 eiliad i’r lleuad groesi ar draws yr haul – fydd dim byd tebyg yn digwydd eto am 123 o flynyddoedd.
Mewn rhai mannau yn India, lle dechreuodd y diffyg, roedd pobol yn cuddio oherwydd chwedlau am anlwc; ond, yn nhref Varanasi, roedd miloedd o Hindwaid yn ymdrochi yn afon sanctaidd y Ganges.
Roedd miloedd o wyddonwyr hefyd wedi crynhoi i bentre’ yn yr India o’r enw Tarenga, am mai yno yr oedd yr olygfa orau.
Roedd hi mor dywyll yn Bangladesh fel bod gyrwyr yn gorfod cynnau goleuadau are u ceir, wrth i’r diffyg symud tua’r dwyrain i gyfeiriad China.
Fydd dim diffyg tebyg eto gan 2132.
Llun – AP Photo/Xinhua