Fe gafodd deddf newydd ei rhuthro trwy’r Senedd er mwyn gosod safonau newydd ar gyfer ymddygiad Aelodau Seneddol.

Fe fydd yn creu trosedd newydd benodol o wneud hawliadau costau ffug gyda chosb ucha’ o garchar am flwyddyn.

Ond fe gafodd y Mesur Safonau Seneddol ei wanhau’n arw wrth iddo fynd trwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi o fewn mis.

Er y bydd corff newydd annibynnol yn cael ei greu i arolygu safonau, fe fydd yn llawer gwannach na’r bwriad gwreiddiol.

Awdurdod Safonau

Fe fydd Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol yn rheoli costau ond fe bleidleisiodd yr ASau a’r Arglwyddi yn erbyn rhoi hawl iddo orfodi safonau newydd mewn meysydd fel lwfansau a thâl am bledio achos.

Mae hynny’n golygu mai’r Aelodau Sewneddol eu hunain fydd yn gyfrifol am lawer o’r gwaith plismona.

Fe fu’n rhaid i’r Llywodraeth ildio ar amryw o’u hargymhellion ac maen nhw wedi cael eu beirniadu am ruthro gormod ac am beidio ag aros am adroddiad llawn sydd ar y gweill gan bwyllgor o dan gadeiryddiaeth Syr Christopher Kelly