Mae chwaraewr Lerpwl a Lloegr, Steven Gerrard, wedi ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl, wedi’i gyhuddo o achosi ffrwgwd mewn tafarn ar Lannau Mersi.
Mae’n gwadu’r cyhuddiad, ond fe honnodd yr erlyniad yn y llys ddoe ei fod wedi colli ei limpyn a tharo dyn sawl gwaith.
Digwyddodd y gwrthdaro yn y Lounge Inn, Southport, ar 29 Rhagfyr y llynedd, yn ystod noson allan yn dilyn buddugoliaeth Lerpwl o 5-1 yn erbyn Newcastle, pan sgoriodd Steven Gerrard ddwy gôl.
Honnodd yr erlynydd heddiw fod Steven Gerrard, 29, wedi ymosod ar un o weithwyr y dafarn, Marcus McGee, 34, ar ôl iddyn nhw anghytuno tros gerdyn oedd yn rheoli’r gerddoriaeth yn yr adeilad. Fe welodd y rheithgor luniau camera CCTV o’r digwyddiad.
Chwe dyn arall
Roedd Steven Gerrard yn y dafarn efo criw o gyfeillion, ac mae chwech ohonyn nhw hefyd yn y llys ynghlwm â’r un digwyddiad.
• Mae John Doran, 29, Ian Gerrard Smith, 19, a Paul McGrattan, 31 – y tri o Huyton, wedi cyfaddef cymryd rhan mewn ffrwgwd.
• Mae Robert Grant, 19, ac Ian Dunbavin, 28 – y ddau o Southport, ac yn chwarae i glwb pêl droed Accrington Stanley – hefyd wedi cyfaddef cymryd rhan mewn ffrwgwd.
• Mae John McGrattan, 34, o Huyton, wedi cyfaddef bihafio’n fygythiol ond wedi gwadu cymryd rhan mewn ffrwgwd.
Llun: Steven Gerrard yn dathlu sgorio (Nigel Wilson – trwydded CCA 2.0)