Mae merch 15 oed wedi marw yn yr Alban ar ôl dioddef o ffliw’r moch – gan godi nifer y marwolaethau cysylltiedig yng ngwledydd Prydain i 30. Does dim sicrwydd bob tro mai’r ffliw sy’n benna’ gyfrifol.

Bu farw’r ferch yn Ysbyty Frenhinol Plant Glasgow ond, yn ôl Llywodraeth yr Alban, roedd hi’n dioddef anawsterau iechyd eraill. Hi yw’r pedwerydd person i farw yn yr Alban ar ôl dal y salwch.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (y WHO) wedi cyhoeddi amcangyfrif fod mwy na’ 700 o bobol ar draws y byd wedi marw ar ôl dal ffliw’r moch ac maen nhw’n dweud fod y ffliw yma’n lledu’n gynt na’r un erioed o’r blaen.

Mae amcangyfrif bod 55,000 achos o’r salwch yn dod i’r amlwg yng ngwledydd Prydain bob wythnos.

Cymru – eisiau’r gwasanaeth arbennig

Yng Nghymru, fe alwodd y llefarydd Ceidwadol ar iechyd, Andrew R. T. Davies, ar i Gymru ymuno gyda’r gwasanaeth ffôn ac arlein brys sy’n cael ei sefydlu yn Lloegr.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales y byddai gweithredu’n awr yn arbed y gwasanaethau iechyd rhag cael eu llethu gan alwadau.