Ifan Morgan Jones, Prif Is-olygydd gwefan Golwg 360, sy’n taro golwg ar y cylchgrawn newydd Sylw a’r rhifyn newydd o Barn…

Mae cylchgrawn materion cyfoes newydd yn y siopau heddiw. ‘Rhifyn enghreifftiol’ yn unig yw Sylw – mae’r Lolfa wedi derbyn £5,000 gan y Cyngor Llyfrau gyda’r nod o herio cylchgrawn Barn am yr £80,000 y mae nhw’n ei gael yn flynyddol, er mwyn cynhyrchu misolyn materion cyfoes Cymraeg.

Gyda’r ddau gylchgrawn eitha’ swmpus wedi disgyn yn drwm ar fy nesg bore ’ma, gan ysgwyd ambell i gwpan hanner gwag o goffi oddi ar ei echel, dyma gyfle i roi barn ar Barn a sylw ar Sylw.

Mae’r teitlau yn dweud lot am y ddau gylchgrawn; Barn – llythrennau breision, monolithig, ysgarled, ar draws dalcen y cylchgrawn, yn eithaf sicr o’i bwysigrwydd eu hun. Sylw – teitl llythrennau bychan, slic, ifanc, wedi ei nythu mor agos i gornel y dudalen blaen mae o bron a disgyn i ffwrdd.

Barn gyda meingefn caled, difrifol. Sylw gyda meingefn meddal, er mwyn ei stwffio i gefn eich jîns yn gyfforddus. Yr ifanc yn herio’r hen, mewn geiriau eraill. Gadewch i’r ornest ddechrau…

Dylunio

Yn anffodus, i’m golwg i, un o fethiannau mawr Barn yw bod y dylunio yn eithaf di-fflach. Gyda erthyglau mor hir mae angen rywbeth i dorri’r testun i lawr a chadw’r diddordeb. Beth gewch chi yw tudalennau a thudalennau o golofnau tew o ysgrifen trwchus.

Does dim angen iddi fod fel hyn. Mae maint y ffont yn eitha’ mawr ar rai tudalennau, ac aceri o wyn ar rai eraill. Mae hyn yn gwneud i’r erthyglau ymddangos hyd yn oed yn hirach nag y maen nhw. Gallai’r erthygl am gam-drin plant yn Iwerddon fod wedi ei grynhoi i dudalen o hanner, ond fan hyn mae’n lled-orwedd dros dair tudalen.

Does dim llawer o wahaniaeth chwaith rhwng y adrannau gwahanol o ran dylunio ac mae’r cyfan yn teimlo’n reit drymaidd. Efallai mai dyna’r bwriad, er mwyn datgan yn glir mai nid cylchgrawn gloyw ac ysgafn yw Barn ond rywbeth mwy difrifol.

Ond beth sy’n biti ydi bod y pynciau dan sylw yn rhai diddorol, ond nad yw’r dylunio ddim yn gwneud llawer i adlewyrchu hynny.

Y tric fyddai gwneud i bobol ddarllen drwy erthyglau swmpus a dwfn heb sylwi eu bod nhw’n gwneud hynny.

Mae dylunydd Sylw wedi meistroli hynny. Dyw’r erthyglau ddim yn fyr o bell ffordd, ond mae’r ffont llai, defnydd doeth o luniau a dyfyniadau, ambell i focs ochor, is-benawdau, a’r amrywiaeth dylunio ym mhob adran yn gwneud byd o wahaniaeth.

Mae’r dewis o luniau hefyd yn dda a’r lliwiau llachar yn neidio oddi ar y dudalen. Mae’n wledd i’r llygad, yn wir.

Cynnwys

Dyma gryfder mawr Barn, yn amlwg. Erthyglau swmpus gan arbenigwyr yn mynd i’r afael gyda materion mawr y dydd, yn ogystal ag adolygiadau trwyadl ar lên, ffilm a chelf o bob math.

Efallai bod rhai o’r erthyglau yn rhy cerebral, a fydd rhai ddim o lawer o ddiddordeb i ddarllenwyr newydd.

A ddylai’r misolyn fod yn cynnwys erthyglau mwy cyraeddadwy er mwyn apelio at gyfran mwy eang o bobol? Lle mae’r ffin rhwng cyflwyno trafodaeth ddwys ar y pwnc dan sylw a diflasu’r mwyafrif o’ch darllenwyr?

Mae golygyddol Sylw yn addo “safbwyntiau ymosodol a radical”, felly wnes i droi’r dudalen gyda rywfaint o bryder.

Mae’n gwestiwn a yw Sylw wedi blaenoriaethu pobol sy’n fodlon dweud pethau dadleuol ar draul pobol sy’n gwybod eu stwff. Ond ar y cyfan, roeddwn i’n teimlo ei fod o’n taro’r nodyn cywir. Dyw’r cynnwys ddim yn ysgafn o bell ffordd, ac mae’n dipyn mwy darllenadwy nag Barn. Fe wnes i chwilio’n ddyfal am erthygl ddiflas i bigo arno ond ro’n i’n methu dod o hyd i un.

Does dim arwydd ei fod ‘na ryw fath o dumb down wedi digwydd er mwyn apelio at y werin bobol, chwaith. Mae’n rhoi sylw teg i bethau anffasiynol fel be’ sy’n mynd ymlaen yng nghrombil y Cynulliad, ond yn gwneud hynny mewn ffordd digon hawdd ei ddeall.

Un syniad nad oeddwn i’n siwr a oeddwn i’n ei hoffi oedd rhoi marciau mewn sêr i’r nofelau a’r albymau. Efallai fod hyn yn ymgais i efelychu cylchgronau ffilmiau. Ond fel awdur fy hun, dw i’n credu ei fod o braidd yn gas.

Prin yw’r gwobrau am ysgrifennu nofelau yn y Gymraeg, a dylid gwobrwyo ymdrech awduron gyda dadansoddiad dyfnach na rhes o sêr. Wrth gwrs, mae yna adolygiad llawn hefyd – ond y sêr fydd yr unig beth fydd nifer o bobol yn edrych arnyn nhw cyn symud ymlaen i’r dudalen nesaf.

Dychmygwch dreulio pum mlynedd yn ysgrifennu nofel, a troi i Sylw a gweld bod eich nofel wedi cael un seren! Efallai mai dyna’r oll oedd o’n ei haeddu, ond dw i’n gweld y sustem sêr ‘ma yn torri ambell i galon cyn y diwedd.

Ta beth am hynny, falle nad oes angen poeni yn ormodol, gan fod pob un adolygiad ond am un yn cael pedair seren allan o bump!

Wrth gwrs, y prawf mawr i Sylw fydd gweld a oes modd cynnal y safon dros gyfnod hir, os yw’r rhifyn enghreifftiol yma’n cael ei farnu’n llwyddiant. Faint y bydd hi’n cymryd i’r “safbwyntiau ymosodol a radical” bylu rywfaint? A fydd modd cynnal safon y dylunio ar ddedlein llawer tynnach?

Casgliad

Felly, pa un sy’n haeddu £80,000 y flwyddyn y Cyngor Llyfrau. Yn anffodus, y ddau ohonyn nhw, mae’n debyg. Mae Sylw yn gylchgrawn safonol a diddorol ac yn haeddu bod yn fisol. Ond mae Barn wedi hen ennill ei blwy’, ac os nad oes cylchgrawn yn cael ei ariannu’n benodol er mwyn cynnig dadansoddiad dyfnach o bynciau llosg Cymru, pwy fydd yn gwneud?

Bydd rhaid i rywun wneud penderfyniad anodd iawn cyn hir…