Mae milwr Prydeinig arall wedi ei ladd mewn ffrwydrad yn ne Afghanistan, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn dydd Llun.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y milwr ar batrol yn Sangin, yn rhanbarth Helmand, pan darodd y ffrwydrad ddydd Sul.

“Fe wnaeth o aberthu ei fywyd dros ei wlad a phobol Afghanistan,” meddai llefarydd ar ran y fyddin. Dywedodd fod teulu’r milwr wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae 186 o filwyr nawr wedi eu lladd ers dechrau’r rhyfel yno.

Mae 17 o filwyr eisoes wedi marw’r mis yma, gan gynnwys wyth mewn un diwrnod – y rhan fwyaf wedi eu taro gan fomiau ar ochor y ffordd.

Mae hyn wedi arwain at feirniadaeth nad oes gan filwyr Prydain ddigon o hofrenyddion, fyddai’n caniatáu iddyn nhw deithio heb orfod croesi ffyrdd peryglus mewn cerbydau neu ar droed.