Roedd yna fuddugoliaeth fawr i’r olffwraig o Abergele, Becky Brwerton, wrth iddi gipio pencampwriaeth merched Sbaen.

Fe sgoriodd hi 70 – dwy ergyd yn well na’r safon – yn y rownd ola’ i orffen ar 270, 18 yn well. Roedd hi chwech ar y blaen i’w gwrthwynebydd agosa’.

Ei buddugoliaeth yn yr Open de Espana Feminino yn Castellon oedd ei theitl cynta’ ary Gylchdaith Ewropeaidd ers 2007.

“Dw i’n hapus iawn, iawn,” meddai wedyn. “Roedd hi’n wythnos wych.”

Mae ei buddugoliaeth yn golygu gwahoddiad awtomatig i chwarae ym Mhencampwriaeth Evian yn Ffrainc.

Llun gan Mudforce (Trwydded GNU)