Mae yna bryder pellach am anhrefn yng nghanolbarth America wrth i drafodaethau fethu ynglŷn â dyfodol Honduras.

Fe rybuddiodd Arlywydd Costa Rica, sy’n ceisio dod o hyd i ateb heddychlon, fod peryg o ryfel cartref yn y wlad, lle mae’r Arlywydd Manuel Zelaya wedi cael ei ddisodli.

Mae ef yn bygwth mynd yn ôl i Honduras i hawlio’r swydd yn ôl ac mae protestwyr o’r ddwy ochr wedi bod ar y strydoedd yno.

Hyd yn hyn, mae trafodaethau rhyngddo ef a llywodradth dros dro Honduras wedi methu yn Costa Rica, ac mae’r Arlywydd yno wedi rhybuddio mai dim ond tri diwrnod sydd ar ôl i geisio cael cytundeb.

Fe gafodd Manuel Zelaya ei daflu o’r wlad ar ôl ceisio cynnal refferendwm i gael yr hawl i fynd am dymor arall yn Arlywydd, a hynny’n groes i gyfansoddiad y wlad. Mae wedi cael ei gyhuddo o frad.

Yn y cyfamser, mae un arall o arweinwyr Canol America yn ceisio gwneud peth tebyg. Wrth ddathlu 30 mlwyddiant chwyldro asgell chwith y Sandinista, mae Daniel Ortega, Arlywydd Nicaragua, wedi cyhoeddi y bydd yntau’n cynnal refferendwm i gael yr hawl am dymor pellach yn y swydd.