Fe ddylai’r Unol Daleithiau fod yn anelu at gael dynion ar y blaned Mawrth, yn ôl un o’r dynion a laniodd ar y lleuad yn 1969.
Roedd angen “mynd yn eofn eto”, meddai Buzz Aldrin, yr ail ddyn i gerdded yno union 40 mlynedd yn ôl. Ac, yn ôl y gofodwr a arhosodd ar long yr Apollo 11, Michael Collins, fe ddylen nhw geisio glanio ar y blaned goch erbyn 2035.
Mae hynny’n mynd yn groes i bolisi’r corff gofod, NASA, sy’n bwriadu anfon dynion yn ôl i’r lleuad unwaith eto, i sefydlu canolfan yno.
Heddwch a rhybudd
Roedden Aldrin a Collins a’r dyn cynta’ ar y lleuad, Neil Armstrong, yn siarad mewn cyfarfod arbennig yn yr Unol Daleithiau i ddathlu’r glanio.
Yn ôl Neil Armstrong, y ras i gyrraedd y lleuad oedd y “gystadleuaeth heddychlon” ddi-ail ac roedd wedi helpu i wella pethau rhwng Yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Oer.
“Fe roddodd y cyfle i’r ddwy wlad gymryd y tir uchel gyda’r nod o hyrwyddo gwyddoniaeth, dysg a darganfod,” meddai.
Ond roedd gan Michael Collins rybudd hefyd, wrth sôn amdano’i hun yn edrych yn ôl o’r gofod ar y ddaear.
. Roedd poblogaeth y byd wedi dyblu o 3 biliwn i 6 biliwn ers iddyn nhw lanio ar y lleuad a doedd hynny, meddai, ddim yn iach nac yn gynaliadwy.
Llun: Y cam cynta’