Mae Heddlu De Cymru wedi cydnabod eu bod ar fai pan gafodd merch 3 oed ei chipio a’i gorfodi i ddiodde’ cyfres o ymosodiadau rhywiol.

Yn ôl teulu’r ferch fach, mae’r heddlu wedi cytuno i dalu iawndal sylweddol iddyn nhw yn sgil yr achos ym mis Ionawr 2006.

Roedd Craig Sweeney, 24 oed, wedi mynd â’r ferch o’i chartre yng Nghaerdydd ac wedi ymosod arni dair gwaith cyn cael ei ddal gan heddlu Wiltshire oherwydd trosedd yrru.

Ar y pryd, roedd y pedoffil ar gyfnod rhydd o’r carchar – roedd wedi ei ddedfrydu am ymosod yn rhywiol ar ferch chwech oed. Yn ôl y teulu, doedd e ddim wedi cael ei ddwyn yn ôl i’r ddalfa er iddo droseddu eto.

Cwyn arall y fam oedd ei bod hi wedi rhoi gwybod i’r heddlu o fewn chwarter awr i’r ferch fach ddiflannu ond na wnaethon nhw ddim ymateb yn ddigon cyflym.

Ymddiheuro

“Rydw i’n ymddiheuro unwaith eto i’r ferch fach a’i theulu am y ffordd y gwnaethon ni ymateb gynta’ i’r digwyddiad hwn,” meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol De Cymru, David Morris. “Rydyn ni wedi dysgu o hyn .”

Roedd mwy na 50 o swyddogion wedi cael hyfforddiant arbennig ar gyfer digwyddiadau o’r fath, meddai’r heddlu.

Llun: David Morris