Boddi wrth ymyl y lan fu hanes Tom Watson yn y Bencampwriaeth Golff Agored heno – o fewn trwch blewyn i gyflawni un o’r campau mwyaf rhyfeddol yn hanes y gêm,

Ar ôl gorfod chwarae pedwar twll ychwanegol i benderfynu’r gêm, ei gyd-Americanwr Stewart Cink a enillodd y Jwg Claret enwog, ei wobr fawr gyntaf.

Tan hynny, ymddangosai mai’r golffiwr sydd ar drothwy ei 60 oed a fyddai’n torri’r record fel y chwaraewr hynaf o bell ffordd i ennill y Bencampwriaeth erioed.

Ond ar ôl methu ergyd yn y twll ychwanegol cyntaf, chwalwyd ei obeithion – 32 mlynedd ar ôl ei ornest enwog yn erbyn Jack Nicklaus yn 1977.

Er gwaetha’i siom heddiw, dywedodd Tom Watson iddo gael profiadau gwefreiddiol yr wythnos yma ac y bydd yn ôl yn St Andrews y flwyddyn nesaf ar gyfer ei Bencampariaeth Agored olaf.

Llun: Stewart Cink yn cael ei longyfarch gan Tom Watson ar ôl ennill Pencampwriaeth Agored 2009 yn nghlwb golff Turnberry, yr Alban. (Lynne Cameron/PA Wire)