Bydd trafodaethau rhwng cynrychiolwyr y coup militaraidd yn Honduras a chefnogwyr yr arlywydd alltud yn ailddechrau yn Costa Rica heddiw.

Ond yn ôl Arlywydd Costa Rica, Oscar Arias, sy’n arwain y trafodaethau, mae’r ddwy ochr yn dal ymhell oddi wrth ei gilydd.

“Fe fydd yn rhaid inni wneud ymdrech i ddod â nhw’n nes at ei gilydd,” meddai.

Roedd arlywydd alltur Honduras, Manuel Zelaya, wedi bygwth datgan bod y trafodaethau’n fethiant oni fyddai’r ddwy ochr wedi dod i gytundeb erbyn hanner nos neithiwr – gan ddweud y byddai’n dychwelyd i Honduras ei ar ben ei hun.

Dywedodd ei gynrychiolwyr, fodd bynnag, eu bod nhw am roi o leiaf un diwrnod arall i’r trafodaethau.

Llun: Rhai o gefnogwyr arlywydd alltud Honduras, Manuel Zelaya, yn protestio yn ninas Tegucigalpa ddoe. (AP Photo/Rodrigo Abd)