Bu farw tad a’i ferch fach 3 oed brynhawn ddoe ar ôl syrthio 50 troedfedd i lawr rhaeadr Nantcol uwchben Llanbedr, ger Harlech.
Gyda help dau ddeifiwr, bu gwasanaeth tân ac achub gogledd Cymru’n chwilio’r afon am tua dwyawr ar ôl cael eu galw yno ychydig wedi 4 y prynhawn. Cafwyd hyd i’r ddau gorff ychydig cyn 6 o’r gloch.
Roedd y tad a’r ferch, a oedd yn dod o ardal Manceinion, yn gwersylla gydag aelodau eraill o’u teulu ar Ynys Fochras ger Harlech, a rheolwr y maes pebyll oedd un o’r deifwyr a fu’n chwilio am y cyrff.
Rhuthrodd Richard Workman i helpu pan welodd hofrennydd yr heddlu’n hedfan uwchben bnawn ddoe. Dim ond ers dwy flynedd y mae Mr Walkman a’i gyd-ddeifar James Hordley, 21 oed, wedi bod yn deifio.
“Fe welson ni’n hofrennydd uwchben y rhaeadr ac roedd hi’n amlwg fod rhywbeth o’i le,” meddai Mr Workman.
“Fe wnaeth James a finnau gynnig mynd i’n hoffer deifio a helpu gyda’r chwilio a derbyniodd yr heddlu ein cynnig. Roedden ni yno am tuag awr.”
Cafwyd hyd i’r cyrff mewn pwll pum metr o ddyfnder ar waelod y rhaeadr.
Dirgelwch
Dywedodd perchennog y fferm lle mae’r rhaeadr, Aled Morgan Jones, fod achos y drychineb yn ddirgelwch. Mae’r rhaedr wedi bod yn agored i’r cyhoedd ers dros 40 mlynedd, meddai, a does dim byd fel hyn wedi digwydd o’r blaen.
“Mae’r llwybr wedi ei arwyddo’n glir yn rhybuddio pobl i beidio â chrwydro oddi wrtho,” meddai. “Unwaith y sylweddolais o le’r oedden nhw wedi syrthio gwyddwn nad oedd unrhyw obaith.
“Wn i ddim beth a ddigwyddodd a dw i’n disgwyl i’r heddlu adrodd beth maen nhw wedi ei ddarganfod.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod ymchwiliad ar y cyd rhwng yr heddlu a Chyngor Gwynedd yn digwydd heddiw a bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y marwolaethau.
Llun: Rhaeadr Nantcol, uwchben Llanbedr – cafwyd hyd i’r cyrff mewn pwll ar waelod y rhaeadr. (Gan Sheral Wood)