Wrth fynd i rownd derfynol y Bencampwriaeth Golff Agored yn Turnberry, mae Tom Watson, sydd ar drothwy ei 60 oed, ar y blaen o un ergyd.

“Pa a ŵyr, fe allai ddigwydd,” meddai heno. “Fe fyddai’n rhywbeth arbennig os gwnaf i’r hyn dw i’n bwriadu’i wneud.

“Y diwrnod cyntaf ‘gadewch i’r hen greadur gael ei ddiwrnod yn yr haul’ oedd hi. Yr ail ddiwrnod ‘roedd yn OK’. A heddiw ‘efallai fod gan yr hen greadur siawns o ennill y twrnament’.”

Petai’n llwyddo, byddai’r pencampwr hynaf yn yr Agored o 13 mlynedd a’r hynaf mewn unrhyw bencampwriaeth o bwys o 11 mlynedd. Byddai’n ennill am y chweched tro, 34 mlynedd ar ôl ei fuddugoliaeth gyntaf, a 26 mlynedd ar ôl ei bumed.

Ond yn gyntaf rhaid iddo guro Ross Fisher o Loegr a Mathew Goggin o Awstralia, sy’n dynn wrth ei sodlau.

Tom Morris, a oedd yn 46 oed pan enillodd am y pedwerydd tro yn 1867, sy’n dal y record fel enillydd hynaf y Bencampwriaeth Agored ar hyn o bryd.

Llun: Tom Watson o’r Unol Daleithiau gyda’i wraig Hilary ar ôl ei drydydd rownd ym mhencampwriaeth Golff Agored Prydain ar gwrs golff Turnberry, yr Alban, heddiw. (AP Photo/Matt Dunham)