Ar ddiwedd trydydd diwrnod ail gêm brawf y Lludw yn Lord’s heddiw, mae Lloegr mewn sefyllfa gref i sicrhau buddugoliaeth.

Erbyn i’r chwarae ddod i ben oherwydd y glaw heno, roedd Lloegr wedi pentyrru 311 am chwech, mantais o 521 dros Awstralia – ac mae ganddynt ddau ddiwrnod arall i gwblhau’r fuddugoliaeth.

Seren y dydd oedd Matt Prior a sgoriodd 61 mewn 42 pêl yn unig, a dywedodd ar ôl y gêm ei fod yn hyderus y bydd bowlwyr Lloegr yn gorffen y gwaith.

“Yn y batiad cyntaf fe wnaethon ni eu bowlio nhw arall ar 215, a’r un wiced yw hi,” meddai.

“Rydym wedi chwarae criced gwych am dri diwrnod a rydyn ni’n haeddu bod yn y sefyllfa’r ydyn ni ynddi.”

Ar yr un pryd, rhybuddiodd:

“Y peth gwaethaf y gallwn ni ei wneud fyddai bod yn hunanfodlon bellach,” meddai. “Does dim lle i hynny mewn chwaraeon rhyngwladol heb sôn am gyfres Lludw.”

Llun: Matt Prior yn batio dros Loegr heddiw (Gareth Copley/PA Wire)