Am y tro cyntaf ers mis Mai mae pôl piniwn yn gosod y Blaid Geidwadol ar dros 40% o gefnogaeth, gan ymestyn eu mantais dros Lafur i 17 pwynt.

Dyma’r bwlch mwyaf rhwng y Toriaid a Llafur ers mis Medi 2008, ar drothwy cyfnod gwaethaf yr argyfwng ariannol.

Yn ôl yr arolwg yn y Sunday Times heddiw, mae’r gefnogaeth i bleidiau llai, fel Ukip, y BNP a’r Gwyrddion wedi syrthio’n ôl i gyfanswm o 15% rhyngddynt.

Dywed y pôl pe byddai etholiad cyffredinol yfory byddai 42% yn cefnogi’r Torïaid (2 i fyny ers y mis diwethaf), 25% yn cefnogi Llafur (1 pwynt i fyny) a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 18% (dim newid).

Nid oes llawer o gysur i’r llywodraeth yn y pôl ychwaith o ran agwedd pobl at y rhyfel yn Afghanistan. Dim ond 20% sy’n credu bod Gordon Brown yn gwneud ei orau i ddarparu’r cyfarpar gorau i’w filwyr, and dim ond 24% sy’n credu bod nod y Llywodraeth o sefydlogi Afghanistan yn werth peryglu bywydau milwyr Prydain drosto.

Llun: Ar ei ffordd i Rif 10? Mae’r pôl piniwn diweddaraf yn newyddion da i David Cameron, arweinydd y Ceidwadwyr.