Mae mewnwr Cymru a’r Llewod, Mike Phillips wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio wedi ffrae gyda gyrrwr tacsi.
Cafodd Phillips ei gludo o’i gartref yng Nghaerdydd i Orsaf Heddlu Y Barri i’w holi am y digwyddiad ar 7 Gorffennaf, yn ôl papur newydd y Western Mail.
Yn ôl yr adroddiadau, mae chwaraewr y Gweilch wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth am 14 diwrnod ar ôl cael ei holi am oriau.
Yn ymateb i’r arestio, dywedodd ei asiant, Mike Burton, wrth y Western Mail:
“Does dim byd i’r cyhuddiad. Mae Mike Phillips wedi bod yn cydweithredu gyda’r heddlu.”
Llun (Gwifren pA)