Bydd gwaith meddyg seiciatryddol yn rhan o arddangosfa Lle Celf yr Eisteddfod yn y Bala eleni.

Mae Rhys Bevan Jones o Sir Aberteifi yn treulio hanner ei amser yn ymchwilio yn adran seiciatrig ysbyty Prifysgol Caerdydd, a’r hanner arall yn feddyg yn y clinic yno.

Yr haf yma bydd yn gorffen cwrs Meistr Seiciatreg ar ddefnyddio’r celfyddydau gweledol fel therapi meddwl.

Ond mae hefyd yn artist sydd a’i waith darlunio yn rhan o gyfrol newydd o gerddi.

Un o’r darnau y mae fwya’ balch ohono yn y casgliad, Lluniau yn Fy Mhen, yn seiliedig ar gerdd ‘Wyt ti’n Gelt?’ gan Eurig Salisbury a fydd yn un o bigion pabell y Lle Celf ar faes Eisteddfod y Bala eleni.

Patrymau Celtaidd

“Ro’n i’n chwarae â’r gymhariaeth rhwng y gwythiennau, neu’r DNA i gymharu â phatrymau Celtaidd. Dyna sydd yn y llun, y patrymau fel organau bron,” meddai’r seiciatrydd 32 oed.

Mae’n dweud bod yr un math o batrymau yn digwydd dro ar ôl tro yng nghelfyddyd gwledydd dros y byd i gyd – rhywbeth yr oedd Carl Jung yn ei alw yn ‘anymwybod cyffredinol.’

“Ry’ch chi’n gweld patrymau tebyg yn y byd Celtaidd a hefyd yn y diwylliannau yn Nepal a De America,” meddai. “Roedd Jung yn meddwl bod gyda ni gyd rywbeth yn gyffredin.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Gorffennaf 16