Mae Arlywydd dros dro Honduras, Roberto Micheletti, wedi dweud ei fod yn barod i adael ei swydd os byddai hynny’n lleddfu trafferthion gwleidyddol y wlad.
Ond mynnodd y byddai ond yn gwneud hynny ar yr amod nad oedd y cyn-arlywydd, Manuel Zelaya, yn cael ailgydio mewn grym.
Disodli
Cafodd yr Arlywydd Manuel Zelaya ei ddisodli o’i swydd gan fyddin Honduras ddiwedd fis Mehefin, a chael ei alltudio i Costa Rica.
Roedd Cyngres y wlad yn anghytuno a’i gynlluniau i geisio newid y drefn wleidyddol, a fyddai’n caniatáu ymestyn ei gyfnod fel Arlywydd.
Mae’r weithred wedi creu tensiwn yn y wlad, ac mae protestio wedi bod yn digwydd ar strydoedd Honduras gan bobol sydd o blaid ac yn erbyn penderfyniad y Gyngres.
Ers cael ei alltudio, mae Manuel Zelaya wedi dweud ei fod am ddychwelyd i’w swydd, ond dim ond i orffen ei dymor o bedair blynedd.
Mae wedi dweud fod gweithred y Gyngres a’r fyddin wedi rhoi’r hawl i bobol Honduras ddechrau gwrthryfel yn erbyn Llywodraeth Roberto Micheletti.
Mae llywodraeth Roberto Micheletti wedi rhybuddio y byddan nhw’n ei arestio os bydd yn dychwelyd, ac y gallai wynebu hyd at 18 o gyhuddiadau, gan gynnwys brad a chamddefnyddio grym.
Gwahardd
Fel canlyniad i’r trafferthion mae Honduras wedi cael ei gwahardd o Gorff Gwladwriaethau’r Americas.
Mae Banc y Byd hefyd wedi rhewi benthyciadau i Honduras, ac mae gwledydd cyfagos wedi atal masnach gyda’r wlad.
Hefyd, mae gwledydd gan gynnwys Ffrainc, Sbaen, yr Eidal a China, wedi tynnu eu cynrychiolwyr oddi yno.
Ar ôl cymryd yr awenau, dywedodd Roberto Micheletti – cyn-arweinydd Cyngres Honduras – y byddai’n aros yn y swydd tan 27 Ionawr 2010, sef diwedd swyddogol tymor arlywyddol Manuel Zelaya.
Dywedodd y byddai etholiad yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd, yn unol â’r drefn.