Mae Gweinidog Ewrop, Glenys Kinnock, wedi awgrymu heddiw y byddai Llywodraeth Prydain yn cefnogi ymgais gan gyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair, i fod yn Arlywydd cyntaf Ewrop, petai’r swydd yn cael ei chreu.

Mae dyfalu fod gan Tony Blair ddiddordeb yn y swydd, er ei fod ef ei hun heb gadarnhau hynny.

Bydd y swydd yn cael ei chreu os bydd cyfansoddiad ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd – Cytundeb Lisbon – yn cael ei gymeradwyo gan bob un o’r gwledydd sy’n aelodau.

Bydd Gweriniaeth Iwerddon yn pleidleisio eto ar Gytundeb Lisbon ar Hydref 2, ar ôl ei wrthod fis Mehefin y llynedd.

Yn dilyn awgrym Glenys Kinnock, fe wnaeth swyddogion ar ran y Llywodraeth frysio i ddweud nad oedd polisi swyddogol yn ei le ar y mater.

Ond cadarnhaodd un diplomydd Prydeinig y byddai’r Llywodraeth yn cefnogi Tony Blair.

Dyw manylion y swydd arfaethedig ddim wedi cael eu cadarnhau eto, ond mae disgwyl y byddai’r Arlywydd yn cadeirio cyfarfodydd rhwng arweinwyr yn Ewrop, ac yn gweithio i ddatblygu amcanion ar gyfer polisïau, yn ogystal â chynrychioli Ewrop yn rhyngwladol.