Mae athro Gwyddoniaeth wedi ei arestio dan amheuaeth o geisio llofruddio bachgen 14.

Mae Jack Waterhouse, 14 mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Babyddol ‘All Saints’ yn Mansfield, ddydd Mercher diwethaf.

Mae’r athro Gwyddoniaeth, Peter Harvey, 49 wedi ei arestio.

Yn ôl honiadau, dioddefodd y bachgen 14 o anafiadau difrifol i’w ben wedi iddo gael ei daro gan ddarn o fetel yn ystod gwers.

Pwll o waed

Cyrhaeddodd parafeddygon i ddarganfod Jack Waterhouse yn anymwybodol mewn pwll o waed ger mynedfa’r ystafell ddosbarth.

Roedd mwy nac 20 o fyfyrwyr yn y dosbarth pan ddigwyddodd yr ymosodiad honedig.

Cludwyd Jack Waterhouse i Ysbyty King’s Mill. Yn fuan wedyn, cafodd ei drosglwyddo i Ganolfan Feddygol Queen’s yn Nottingham.

Cadarnhaodd yr Heddlu eu bod nhw’n holi Peter Harvey mewn cysylltiad â dau ymosodiad arall, un ar ferch a llall ar fachgen yn yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi gwrthod rhoi unrhyw sylw ar y mater.

Dywedodd yr Heddlu fod yr achos yn un “trawmatig” ond fod digwyddiad o’r fath yn “hynod anghyffredin.”