Daeth gobeithion Llanelli a’r Seintiau Newydd o fynd drwodd i’r rownd nesa’ o Gwpan Ewropa i ben neithiwr.

Er i Lanelli ennill y gêm gyntaf yn eu brwydr dau gymal yn erbyn Motherwell, o Uwch Gynghrair yr Alban, colli wnaeth y Cochion o 3-0 ar Barc y Scarlets neithiwr – buddugoliaeth o 3-1 i’r Albanwyr dros y ddwy gêm, felly.

Sgoriodd Motherwell ddwy gôl yn y 24 munud agoriadol – gyda’r ymosodwr, John Sutton, yn hawlio’r ddwy.

Andrew Mumford ddaeth agosa’ at sgorio i’r tim cartref – a hynny ar ddau achlysur. Ond fe wnaeth golwr Motherwell, Michael Fraser arbed yn dda ddwy waith.

Er i’r Cochion chwarae’n dda yn yr ail hanner, wrth iddyn nhw bwyso am gôl, fe wnaeth Motherwell wrth-ymosod, gyda Jim O’Brien yn croesi i Jamie Murphy benio trydedd gôl y noson i’r Albanwyr.

Er gwaetha’r golled, dywedodd chwaraewr-reolwr, Llanelli – y bythol wyrdd, Andy Legg – ei fod yn falch iawn gydag ymdrech y tîm dros y ddau gymal.

Colli hefyd oedd hanes y Seintiau Newydd yn erbyn Fram Reykjavik o Wlad yr Iâ.

Er i Steve Evans roi’r Cymry ar y blaen ar y noson, sgoriodd Almar Ormarsson i Reykjavik i’w gwneud hi’n 1-1.

Yna fe wnaeth Sam Tillen selio’r fuddugoliaeth gyda chic o’r smotyn – a’r tîm o Wlad yr Iâ yn ennill o 4 -2 dros y ddau gymal.