Mae dau ffrind bore oes o Bwllheli yn arddangos eu gwaith o’u teithiau tramor yn oriel Plas Glyn y Weddw ar hyn o bryd fel rhan o arddangosfa Artistiaid Cymru Dramor.

Y ffotograffydd

Mae Gareth Jenkins yn ffotograffydd 39 oed, sy’n ara’ wneud enw i’w hun ers troi at y camera yn 2005 a gadael swydd fel peiriannydd cyfrifiadurol.

Cerflunydd a gafodd ei ysbrydoli gan yr artist Peter Prendergast yw ei ffrind, David Owen, sydd wedi ailgydio yn ei grefft ar ôl blynyddoedd yn gweithio mewn siop hen bethau.

Gareth yw’r teithiwr mwya’ talog o’r ddau. Gadawodd ei swydd gyda chwmni IBM yn Portsmouth a theithio’r Aifft, Ynysoedd y Môr Tawel, gogledd a de America, Ewrop ar ei hyd, cyn mynd i Antartica yn 2007.

“Pan o’n i’n 15 mi wnaeth Dad roi camera i fi,” meddai Gareth Jenkins. “Ond es i mewn i engineering. Mond chwarae o’n i. Nawr dwi’n sbio ar y wlad, mae pob dim yn whanaol. Wnes i weld dim o’r blaen; rwan dwi’n gweld bob dim yn wahanol.”

Yr wythnos ddiwetha’ enillodd Gareth Jenkins gydnabyddiaeth Cymrodor y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol.

Mae eisoes wedi ennill dwy wobr am ei luniau gan Gynghrair Ffotograffig Prydain Fawr gyda lluniau o bengwiniaid yn Antartica.

“Roedd e’n ffenomenal o le,” meddai. “Fel Gardd Eden, gyda phengwins ym mhobman.”

Mae’n bwriadu mynd i China nesa’ i dynnu lluniau, ond mae hefyd wedi bod wrthi yn tynnu lluniau ym Mhen Ll&#375n, ac o hen chwareli llechi’r gogledd.

“Dw i ddim yn broffesiynol o gwbl,” meddai, “hobi ydi o. Dw i’n cael cic allan o bobol yn gweld y lluniau.”


Y Cerflunydd

Astudiodd David Owen gerflunio yng Ngholeg Technegol Manceinion. Ond, oherwydd amgylchiadau teuluol, ni aeth i astudio’r grefft o gastio pres yn Llundain fel roedd wedi’i fwriadu, a buodd yn gwerthu hen bethau mewn siop ym Mhwllheli.

Tua tair blynedd yn ôl, bu arddangosfa o’i waith arlunio yn oriel Kathy Gittins yn y dre’ a daeth ei hyder yn ol iddo ar ol gwerthu rhai o’i luniau.

Aeth allan i’r Eidal at ei ffrind Gareth Jenkins a buon nhw’n teithio’r wlad am bythefnos gyda’i gilydd, un yn defnyddio’i gamera a’r llall â’i lyfr sgetsio.

Mae gan David Owen sawl llun o Fflorens yn yr arddangosfa ym Mhlas Tan y Bwlch, dinas a gipiodd ei ddychymyg.

“Efo’r Renaissance, mae yna ryw fath o deimlad yna,” meddai David Owen. “Mae cyn gymaint o hanes yno – gwaith Michelangelo a cherflun o David yn yr Accademia. Yn Rhufain, do’n i ddim yn cael yr un teimlad.

“Oeddwn nhw i fod yn sgetsys. Do’n i’m yn poeni ormod ffordd ro’n i’n eu gwneud nhw. Maen nhw fod yn reit fyw a ffresh.”

Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Gorffennaf 9