Mae uned iechyd meddwl newydd i blant a phobl ifanc yn cael ei agor yng ngogledd Cymru heddiw.
Cafodd £15m ei buddsoddi yn yr uned newydd ar safle Ysbyty Abergele, yng Nghonwy.
Bydd yr uned yn darparu gwasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos.
Mae 18 o welyau nawr ar gael ar gyfer plant a phobol ifanc sy’n gleifion iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.
Bydd yr uned yn darparu help a chefnogaeth i ieuenctid yng ngogledd Cymru sydd â phroblemau iechyd meddwl megis anhwylder bwyta, iselder a hunan-niweidio.
Cafodd yr adeilad ei gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc, gyda nifer ohonynt wedi cyfrannu at y broses.
Gwasanaeth lleol
Dywedodd Michael Williams, cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gogledd Cymru, ei fod yn hapus iawn bod yr uned newydd yn agor.
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu trin y cleifion yma’n lleol, yn hytrach na gorfod defnyddio gwasanaethau yn Lloegr i ffwrdd o’u teuluoedd a ffrindiau,” meddai.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, “Bydd y cyfleusterau yma’n gwella’r gofal arbenigol sydd yn cael ei gynnig yn lleol i blant a phobl ifanc.
“Rwy’n benderfynol o wella ar wasanaethau gan gynyddu’r gallu i ddelio gyda materion iechyd meddwl, a chodi proffil gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y Gwasanaeth Iechyd.”