Mae mosgiau yn Urumqi, China, wedi agor eu drysau heddiw, er gwaetha’r anghydfod ethnig sydd eisoes wedi lladd 156 yn yr ardal.
Mae gweddiau prynhawn Gwener yn uchafbwynt wythnosol i leafrifoedd Mwslemaidd yr Uighur.
Fe wnaeth tua 100 o bobl gasglu y tu allan i’r ‘White mosque’ – un o’r mannau mwyaf poblogaidd i addoli yn yr ardal – gan alw ar yr heddlu i’w agor.
Dywedodd plismon a oedd yn gwarchod y mosg, eu bod wedi penderfynu ei agor gan nad oedden nhw am weld “digwyddiad” yn datblygu.