Mae ail nofel Mari Strachan, Blow on a Dead man’s Embers, newydd ei chyhoeddi ac mae disgwyl iddi gael ei chyfieithu i wyth o ieithoedd eraill.
Er ei bod yn wreiddiol o Harlech ac yn byw yng Ngheredigion mae Mari Strachan yn ei chael hi’n anodd sgrifennu yn y Gymraeg.
Dyma hi i egluro mwy…
“Mae Cymraes fach yn adrodd ei hanes yn y nofel, felly yn Gymraeg ddylai fod yn gwneud hynny,” meddai.
“Ond er mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, er mai Cymraeg fydda’ i yn ei siarad efo fy nheulu (heblaw fy ngŵr, sy’n Albanwr!) a hefo hynny o gymdogion sydd yn medru’r Gymraeg, does gen i mo’r hyder i ysgrifennu nofel gyfan yn Gymraeg.
“I ddelio hefo hyn beth wnes i oedd ceisio dangos mae yn Gymraeg oedd y nofel er ei bod wedi ei hysgrifennu yn Saesneg.
“Er fy mod yn credu mai dweud stori ydi prif waith unrhyw nofel, mae awdur eisiau gwneud mwy na hynny, ac un o lawer o bethau oedd gen i eisiau ei wneud oedd dweud wrth bobol hyd a lled y byd bod gwlad fach drws nesaf i Loegr hefo’i hiaith, ei hanes a’i diwylliant ei hun oedd wedi bod yn hir iawn yn dechrau cael yr hawl i’w phobol i ddefnyddio eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain ym mhob sefyllfa: mewn ffordd, i ddangos bod gan bob lleiafrif ei hawliau.”
‘Proses araf deg’
“Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd (Ysgol Ardudwy Harlech o 1955 i 1963) roedd gwahaniaeth mawr rhwng Cymraeg llafar a Chymraeg lenyddol, ac allwn i ddim ysgrifennu yn greadigol yn yr iaith Gymraeg lenyddol mor hawdd ag y gallwn yn Saesneg hyd yn oed adeg hynny.
“Es ymlaen i astudio Hanes a Saesneg yn Brifysgol Gaerdydd, ac wedyn symudais i Fanceinion i astudio Llyfrgellyddiaith. Fe fues i hefyd yn gweithio yn Lloegr am bron i ugain mlynedd.
“Ar ôl dod yn ôl i Gymru a sylweddoli fod y bwlch rhwng y ddwy Gymraeg wedi cau yn sylweddol, mi es i ddosbarthiadau nos i roi sglein ar fy Nghymraeg gan obeithio medru ei hysgrifennu’n rhwyddach.
“Ond mae dal yn broses araf deg i mi – mae’r darn yma wedi cymryd llawer yn hirach i mi ei ysgrifennu na fysai wedi ei gymryd i mi ei ysgrifennu yn Saesneg – ac mae’n sicr bod llawer o wallau iaith ynddo hefyd!
“Yn y cyfamser, roeddwn wedi dechrau cwrs MA mewn ysgrifennu creadigol ar-lein hefo Prifysgol ‘Metropolitan’ Manceinion, felly roedd rhaid ysgrifennu’r nofel (The Earth Hums in B Flat, ei nofel gynta’) yn Saesneg.”
Cewch ddarllen gweddill ei sylwadau yn Golwg, Gorffennaf 9