Mae partneriaeth batio Simon Katich a Ricky Ponting wedi rhoi Awstralia mewn safle cryf iawn yn y prawf cyntaf yng Nghaerdydd.
Sgoriodd Katich 104 o rediadau, a’r capten, Ricky Ponting, yn cyfrannu 100 i sicrhau bod Awstralia ar 249-1.
Mae Ricky Ponting nawr wedi sgorio 100 o rediadau 38 o weithiau, ac mae wedi sgorio dros 11,000 o rediadau mewn gemau prawf yn ystod ei yrfa erbyn hyn.
Dim ond un wiced hawliodd Lloegr, pan wnaeth Phillip Hughes wyro pêl Andrew Flintoff mewn i ddwylo Matt Prior.
Yn gynharach yn y dydd roedd Lloegr wedi gorffen eu batiad cyntaf ar 435.
Roedd yn darged digon sylweddol i Awstralia. Ond wedi diwrnod rhwystredig i fowlwyr Lloegr, mae Awstralia mewn rheolaeth lwyr ar hyn o bryd.