Mae Heddlu Los Angeles wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio ymhellach i’r cyffuriau yr oedd Michael Jackson yn eu cymryd.
Maen nhw am gael gwybod mwy am y cyffuriau presgripsiwn roedd y seren bop yn eu cymryd ac yn siarad â chyn-feddygon y canwr.
Nid tasg hawdd fydd hon. Yn ôl adroddiadau a chyfrifon cyhoeddus roedd y canwr wedi gweld mwy na dwsin o ddoctoriaid ers 2003.
Yn ôl adroddiadau sianel newyddion CNN, mae’r Heddlu’n disgwyl adroddiad crwner cyn dod i unrhyw ganlyniadau am farwolaeth y canwr 50 mlwydd oed.
Ond cyn gallu gwybod beth yn union achosodd y farwolaeth, mae adran y crwner yn disgwyl canlyniadau tocsicoleg yn ôl.
Mae’r Heddlu’n parhau i gasglu tysiolaeth yn yr achos.
Pwy sy’n talu’r ffî plismona?
Yn y cyfamser, mae cynghorydd dinas Los Angeles wedi galw ar gwmni hyrwyddo’r canwr AEG, i dalu rhan o’r $1.4 miliwn a gostiodd i blismona gwasanaeth coffa’r canwr yng Nghanolfan Staples, Los Angeles.
AEG yw perchnogion canolfan Staples. Bu i’r cwmni godi 50,000 o ddoleri ar y wasg yng ngwasanaeth coffa’r canwr.
Mae trethdalwyr y ddinas yn mynnu y dylai’r cwmni dalu rhan o gost plismona’r gwasanaeth.
Ond mae Tim Leiweke, llywydd AEG, wedi dweud ei fod yn “afresymol” gofyn i AEG dalu am y plismona gan ddatgan eu bod wedi talu am y gwasanaeth coffa ei hun, gyda theulu’r canwr.
Mae’n gyfnod drwg yn economaidd i ddinas Los Angeles, sydd eisoes mewn dyled o hanner biliwn o ddoleri.