Mae un ym mhob chwech adeilad yng Nghymru mewn perygl o gael eu heffeithio gan lifogydd.

Mae bron i 600,000 o bobl yn yn byw neu’n gweithio mewn ardaloedd sy’n wynebu risg gorlif, dywedodd adroddiad heddiw.

Daw’r ffigyrau hyn o adroddiad ddiweddaraf Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Amcangyfrifir i fil blynyddol difrod 220,000 o adeiladau sy’n wynebu risg gorlif ac sydd wedi’i hadeiladu yn ymyl dŵr – fod cymaint a £200 miliwn.

Ychwanegodd yr adroddiad fod bron i 800 o safleoedd trydan, heddlu ac ambiwlans yn wynebu’r risg hwn gyda 11% o brif ffyrdd a 33% o reilffyrdd hefyd o dan fygythiad.

Yn yr adroddiad mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru’n yn amlinellu’r hyn y mae’n nhw’n ei wneud i baratoi ar gyfer llifogydd yn ogystal a rhoi amlinelliad o waith sydd angen ei wneud.

Gwario mwy na £16 miliwn ar gynlluniau

Dywedodd Y Gweinidog Amgylchedd Jane Dvidson:

“Dyw dibynnu ar ffyrdd traddodiadol ar gyfer y dyfodol ddim yn ddigon da. Mae angen i ni ddarganfod ffyrdd newydd i ddelio â’r broblem.”

Bydd mwy na £16 miliwn yn cael ei wario ar gynlluniau gorlif y flwyddyn hon,a bydd llawer o’r gyllideb yn cael ei gwario ar adeiladu amddiffynfeydd newydd, yn ôl yr Asiantaeth.

Wrth i lefelau’r môr godi a glawiad gynyddu mae risg gorlif yn tyfu hefyd hefyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Asiantaeth Amgylchedd Cymru:

“Mae’r ffigyrau newid hinsawdd diweddaraf yn dangos fod risg gorlif yn parhau. Mae penderfyniadau pwysig i’w gwneud yma yng Nghymru am sut yn union i ddelio â’r risg ac i amddiffyn pobl, cymunedau, busnesau ac economi Cymru yn y dyfodol.”