Mae’n bosib y bydd nifer o bobol enwog yn cymryd achosion cyfreithiol yn erbyn y News of the World, wedi honiadau fod y papur wedi hacio i fewn i’w ffonau symudol.
Yn ol papur newydd y Guardian, mae cyfreithwyr eisoes wedi cael galwadau gan enwogion, gwleidyddion a ffigyrau cyhoeddus amlwg yn gofyn am gyngor cyfreithiol.
Mae’r Guardian yn enwi rheolwr Machester United, Alex Ferguson, a chyn-gapten tîm pêl-droed Newcastle United a Lloegr, Alan Shearer, ymhlith yr enwogion gafodd eu galwadau wedi eu recordio.
Mae’n debyg iddyn nhw adael negeseuon ar ffôn prif weithredwr, Cymdeithas y Pel-droedwyr Proffesiynol, Gordon Taylor.
Fe wnaeth e’ gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y News of the World llynedd, a chael £700,000 i setlo’r achos heb fynd i wrandawiad cyhoeddus, meddai’r Guardian.
Ymchwiliadau
Mae tri ymchwiliad wedi ei lansio gan y cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus, y Comisiwn Cwynion yn Erbyn y Wasg a’r Pwyllgor Dethol seneddol.
Ond mae Scotland Yard wedi cyhoeddi na fydd yr heddlu yn cynnal ymchwiliad newydd i’r mater.
Yn ôl Heddlu’r Met, does dim digon o dystiolaeth i gyfiawnhau ymchwiliad pellach.
Mae’r Guardian yn honni fod rhwng 2,000 a 3,000 o ffigyrau cyhoeddus wedi eu targedu – mewn ymdrech i gael gwybodaeth o negeseuon ar eu ffonau symudol.