Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd y diwydiant pysgod yng Nghymru yn derbyn hwb o £930,000.
Fe fydd yn mynd at bump o brosiectau gwahanol, gan gynnwys mwy na hanner miliwn i agor rhagor o afonydd dalgylch Gwy a Wysg i bysgod mudol.
Y pedwar cynllun arall yw:
• £263,285 i Bysgotwyr Bae Ceredigion i wella’u hadnoddau a gwerth y pysgod ynghyd â chynllun datblygu ar gyfer corgimychiaid Bae Ceredigion.
• £245,550 at system loeren i helpu cychod achub i ddod o hyd i bysgotwyr sy’n syrthio i’r môr o’u cychod.
• Cafodd Ffederasiwn Cymdeithasau Pysgota Cymru £13,003 i ddatblygu dulliau cynaliadwy o reoli pysgodfeydd.
• Bydd £9,908 yn mynd at gynllun Pysgota Cyfrifol.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn ystod ymweliad Elin Jones â fferm bysgod Selonda yn Sir Fôn a bydd yr arian yn dod o Gronfa Bysgodfeydd Ewrop.
Derbyniodd y fferm Selonda £3.6 miliwn mewn cyllid gan y Gronfa yn ôl yn 2002 ac ers hynny mae wedi datblygu’n un o fentrau ffermio dŵr mwya’ blaenllaw gwledydd Prydain.