Mae Bolton wedi gwneud un ymdrech olaf i arwyddo chwaraewr canol cae Abertawe, Ferrie Bodde.
Cafodd cynnig o £2.5m ei wrthod gan yr Elyrch, ond mae Bolton wedi gwneud ail gynnig o tua £3.5m.
Y broblem i Abertawe yw y byddai hanner y tâl yn mynd i Den Haag – clwb blaenorol Bodde. Roedd hyn yn rhan o’r cytundeb pan gafodd ei brynu gan Abertawe am £80,000 yn 2007.
Felly mae Abertawe yn chwilio am £5m ond mae rheolwr Bolton, Gary Megson wedi dweud y bydd o’n canolbwyntio ar dargedau arall pe bai Abertawe yn gwrthod eu cynnig newydd.
Mae Bodde eisoes wedi dweud ei fod am chwarae yn yr Uwch Gynghrair, ac mae cyn reolwr Abertawe, Roberto Martinez hefyd yn ystyried ei arwyddo i Wigan.