Mae Caerdydd yn ystyried gwneud cynnig am asgellwr Leyton Orient, Jason Demetriou.

Mae Demetriou wedi cael ei gysylltu gyda nifer o glybiau’r Bencampwriaeth gan gynnwys Newcastle Utd a QPR.

Mae gan yr asgellwr dri chap i Gyprus, ac mae wedi sgorio 9 gôl mewn 122 o gêmau i’w glwb.

Blaenoriaeth rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yr haf yma oedd dod o hyd i amddiffynwyr newydd, ac arwyddodd Mark Hudson, Anthony Gerrard a Paul Quinn.

Ond mae rheolwr yr Adar Glas am ganolbwyntio ar sicrhau dau neu dri chwaraewr arall i gryfhau’r canol cae a’r ymosod cyn ddechrau’r tymor newydd.

Mae’r chwaraewr canol cae, Maros Klimpl o Slofacia, yn cael prawf gyda’r clwb, ac fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â’i ddyfodol yn ystod y dyddiau nesaf.

Capten newydd

Bydd rhaid i Dave Jones hefyd benderfynu ar gapten newydd i’r clwb yn ystod yr wythnosau nesaf, yn lle Roger Johnson.

Mae Joe Ledley yn un o’r ffefrynnau i gael ei benodi, ond tra bod ei ddyfodol gyda’r clwb o dan amheuaeth, efallai y bydd y rheolwr yn ffafrio rhywun arall.

Ymysg y ffefrynnau eraill mae’r chwaraewyr newydd sydd wedi ymuno â’r clwb – mMae Mark Hudson, Anthony Gerrard a Paul Quinn wedi bod yn gapteiniaid yn ystod eu gyrfaoedd.

Paul Quinn oedd capten Motherwell y tymor diwethaf, a Mark Hudson oedd capten Charlton. Roedd Hudson hefyd yn gapten ar Crystal Palace, cyn arwyddo i Charlton ac mae’n debyg mai ef yw prif gystadleuydd Ledley.