Mae chwaraewr-reolwr Llanelli, Andy Legg wedi dweud fod yna lot o waith ar ôl i’w wneud cyn y byddan nhw’n ennill eu lle yn rownd nesaf Cynghrair Europa.
Fe lwyddodd Llanelli i guro Motherwell 1-0 yn yr Alban yr wythnos ddiwethaf, ac fe fyddai gêm gyfartal heno ym Mharc y Sgarlets yn ddigon iddyn nhw fynd ymlaen yn y gystadleuaeth.
Ond mae Andy Legg yn credu y bydd yn dasg anodd, gan gredu mai’r tîm o Uwch Gynghrair yr Alban yw’r ffefrynnau i ennill.
Ychwanegodd Legg bod chwaraewyr proffesiynol Motherwell wedi bod yn ymarfer bob dydd ers colli’r cymal cyntaf – tra bod chwaraewyr Llanelli yn gweithio bod dydd.
Dywedodd y rheolwr mai’r cyfan yr oedd yn ei ddisgwyl gan ei chwaraewyr oedd eu gorau glas.
Y Seintiau Newydd
Mae’r Seintiau Newydd yn gobeithio y bydd chwarae gartref yn yr ail gymal heno yn eu helpu nhw i guro Fram Reykjavik ac ennill eu lle yn y rownd nesaf.
Cafodd 1,000 o seddau eu gosod yn eu stadiwm i sicrhau bod hawl gan y clwb gynnal eu gêm gyntaf yn Ewrop.
Dyw’r Seintiau erioed wedi mynd ymlaen i’r rownd nesaf y gystadleuaeth, a mae ganddyn nhw bob cyfle i wneud hynny heno gyda’r sgôr yn y cymal cyntaf yn 2-1 i Fram Reykjavik.