Mae cwmni wedi cael eu dirywio £150,000 ar ôl i fachgen ddioddef “anafiadau catastroffig i’w ymennydd” mewn pwll nofio.
Bydd rhaid i Upper Bay Limited, y cwmni sy’n berchen ac yn rheoli’r parc carafanau Bae Trecco, ger Porthcawl, hefyd dalu £182,500 mewn costau.
Cafwyd y cwmni yn euog am fethu â chadw’r plentyn rhag peryglon iechyd a diogelwch.
Pwll nofio
Roedd Chad Mole, saith oed o Halesowen ger Birmingham, ar ei wyliau ym mharc Bae Trecco yn 2005 pan aeth i bwll nofio Splashland yng nghwmni ei dad, Brian, a’i frawd , pedair oed JJ.
Doedd yr un o’r ddau blentyn yn medru nofio ac roedd yna arwydd i fyny’n dweud bod rhaid i oedolyn fod gyda phlant o dan wyth oed.
Tra bod ei dad yn rhoi sylw i JJ, fe aeth Chad Mole ar grwydr, a llithro i mewn i ochr ddwfn y pwll. Rhiant arall, Joseph Coffey, a sylwodd ei fod ar waelod y pwll a’i dynnu allan. Fe fu achubwyr yn ceisio’i adfer cyn i ambiwlans ddod.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd, sut roedd achubwr bywyd, Jo Sperduty wedi siarad gyda’r bachgen ychydig cyn iddo ddisgyn i’r dŵr dwfn – ond doedd e ddim wedi gofyn a oedd yn gallu nofio neu pwy oedd gydag e.
“Rydym ni’n credu fod hyn yn gamgymeriad, oherwydd cyn hir roedd Chad rywsut wedi disgyn i mewn i’r dŵr dwfn,” meddai’r erlynydd, Ian Pringle.
Roedd pedwar achubwr bywyd yn gweithio yn y pwll y diwrnod hwnnw, ond doedd yr un ohonyn nhw yn monitro’r ardal lle y disgynnodd Chad Mole.
‘Rhaid cydymffurfio â rheolau’
Dywedodd y Barnwr Stephen Hopkins bod hyn wedi dangos pa mor bwysig oedd cydymffurfio gyda rheolau diogelwch.
Ychwanegodd y barnwr na fyddai’r un swm o arian yn gallu ad-dalu Chad Mole na’i deulu am yr hyn ddigwyddodd iddo’r diwrnod hwnnw.
Mae’r cwmni wedi cael tri mis i dalu’r arian, ond mae llefarydd ar ran Upper Bay Ltd wedi dweud eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.