Mae’r pum dyn rhwng 18 a 22 mlwydd oed a arestiwyd ynglŷn â llofruddiaeth David Tothill yng Nghaerdydd, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth heddiw.

Daeth cymydog o hyd i David Tothill yn ei fflat yn Gwaun Close, Yr Eglwys Newydd, tua 10 fore Sul, 5 Gorffennaf. Roedd rhywun wedi ymosod arno.

Rhuthrwyd David Tothill i Ysbyty Prifysgol Cymru, ond bu farw’r gŵr 42 oed y diwrnod wedyn.

Mae Heddlu De Cymru’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Swyddfa Heddlu Tyllgoed ar 029 2057 1530 neu gyda Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.