Mae Dafydd Wigley wedi canu clodydd Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas am fynnu diwygio’r drefn o dalu costau a lwfansau i Aelodau Cynulliad.
Llywydd y Cynulliad a gychwynnodd y broses a ddaeth i ben ddydd Llun wrth i Roger Jones gyflwyno cynnwys adroddiad ei banel annibynnol am gyflogau a lwfansau.
“Mae yna lawer iawn o glod i fynd i Dafydd Elis-Thomas,” meddai Dafydd Wigley a oedd yn aelod o’r panel, “ddaru o weld flwyddyn i Fis Mawrth diwetha’ y byddai [treuliau ACau] yn achosi problem, a fod angen cael golwg annibynnol ar strwythur sut mae treuliau’n gweithio. Pe bai’r Llefarydd Martin wedi gwneud hynny, fe fyddai o’n dal mewn job heddiw.”
Ag yntau’n gyn-arweinydd Plaid Cymru ac un sydd wedi bod yn Aelod Seneddol ac yn Aelod Cynulliad, Dafydd Wigley oedd aelod amlycaf panel Roger Jones. Roedd ef a Dafydd Elis-Thomas wedi cael sawl brwydr galed wrth arwain Plaid Cymru yn y gorffennol.
Er eu bod wedi dechrau ar y gwaith o edrych ar system dreuliau’r ACau ymhell cyn i sgandal costau San Steffan ddod i’r amlwg, eglurodd wrth gylchgrawn Golwg bod y sgandal wedi dylanwadu arnyn nhw.
“Mae’n amlwg fod yna fwy o sylw wedi dod i fwy o bynciau na fyddan ni yn naturiol wedi rhoi sylw iddyn nhw, ” meddai Dafydd Wigley. “Y math o beth nad oeddan ni ddim yn gwybod amdano fo hyd yn oed pan o’n ni’n dechrau’r gwaith oedd y fflipio yma.
Yr erthygl yn llawn yn Golwg, Gorffennaf 9