Mae cyn reolwr rygbi Cymru, Graham Henry wedi cael ei ail benodi’n hyfforddwr Seland Newydd ar gyfer Cwpan y Byd 2011.

Mae ei hyfforddwyr cynorthwyol, Wayne Smith a Steve Hansen, cyn hyfforddwr arall ar Gymru, hefyd wedi cael cytundebau newydd.

Mae Graham Henry wedi bod yn hyfforddwr y Crysau Duon ers 2004 ac mewn 66 gêm brawf, mae wedi ennill 57.

Er hynny, fe ddywedodd ei hun ei fod wedi hanner disgwyl cael y sac pan ddaeth o dan bwysau yn 2007, ar ôl colli i Ffrainc yn rownd yr wyth olaf Cwpan y Byd.

Gyda Warren Gatland yn hyfforddi Cymru a Robbie Deans yn Awstralia, ail benodi Henry a’i staff oedd yr opsiwn amlwg i Seland Newydd.

Maen nhw bob tro yn penodi hyfforddwr o’u gwlad eu hunain i arwain y Crysau Duon.

‘Chwarae fel geifr’

Dywedodd Jack Hobbs, cadeirydd Undeb Rygbi Seland Newydd fod Graham Henry a’i staff yn hyfforddwyr gwych.

“Mae ganddyn nhw record dda iawn, ac rydym ni’n eu parchu nhw’n fawr iawn. Maen nhw’n gwbl ymroddedig i rygbi Seland Newydd, ac yn rhan bwysig iawn o’r sefydliad.”

Ond mae’r ailbenodiad wedi denu beirniadaeth chwyrn gan rai, gydag un o arwyr y Crysau Duon, Billy Bush, yn galw am newid yr hyfforddwr ar ôl cyfres o berfformiadau “pathetig” gan y Crysau Duon.

“Roedden nhw’n edrych fel geifr yn y gêm yn erbyn yr Eidal,” meddai wrth y New Zealand Herald. “Y ffordd yr ’yn ni’n chwarae, wnawn ni ddim ennill Cwpan y Byd.”

‘Anrhydedd’

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael hyfforddi’r Crysau Duon, ac rydw i a’r hyfforddwyr eraill yn hapus iawn i gael ein hail benodi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael arwain y tîm ymlaen i 2011.” – Graham Henry

“Mae’n sialens gyffrous, ac rydw i’n falch o’r cyfle. Mae’n bwysig ein bod yn gweithio’n galed ac yn mwynhau’r rygbi”- Steve Hansen.